Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Hydref 2018
Amser:
08.30 -
08.55
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Julie James AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Roedd holl aelodau'r pwyllgor yn bresennol ar gyfer y cyfarfod cychwynnol am 8.30am. Pan wnaeth y Pwyllgor Busnes ailymgynnull am 1pm, anfonodd Rhun ap Iorwerth a Neil Hamilton eu hymddiheuriadau. Roedd Dai Lloyd yn bresennol fel dirprwy ar gyfer Rhun ap Iorwerth.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 7 Tachwedd 2018 -
· Cydraddoldeb a Brexit - Canfyddiadau ar y cyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas
Unedig (60 munud) – gohiriwyd tan 14
Tachwedd
Dydd Mercher 14 Tachwedd 2018 -
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i baratoadau ar gyfer disodli cyllid yr UE yng Nghymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas
Unedig (60 munud) – gohiriwyd o 7 Tachwedd
Trafododd Rheolwyr Busnes dyrannu cadeiryddion pwyllgorau, gan gynnwys cynnig posibl i ailddyrannu cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau i'r Ceidwadwyr Cymreig ynghyd â newid yn y drefn y gelwir ar Arweinyddion a Llefarwyr yn ystod cwestiynau fel eu bod bob amser yn cael eu galw yn nhrefn maint y grŵp.
Gwrthwynebodd Neil Hamilton y cynnig ar y sail ei fod yn credu ei y byddai adlewyrchiad teg o faint y grŵp yn golygu y byddai gan UKIP un gadeiryddiaeth pwyllgor.
Nododd y Llywydd gan mai hi sy'n gyfrifol am drefn y cwestiynau, mae angen amser arni i ystyried y cynnig ac felly gofynnodd i'r Pwyllgor Busnes ailymgynnull am 1pm.
Bydd Darren Millar a Rhun ap Iorwerth yn trafod sut y dylid llenwi'r lle gwag ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y tu allan i'r pwyllgor.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid adolygu'r Rheolau Sefydlog penodol sy'n gysylltiedig â'r mater hwn erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.
Gwnaeth Pwyllgor Busnes ailymgynnull am 1pm. Dywedodd y Llywydd fod angen mwy o amser arni i drafod goblygiadau'r cynnig a wnaed ac y bydd yn gohirio pob penderfyniad sy'n ymwneud â dyrannu cadeiryddion pwyllgorau tan y cyfarfod wythnos nesaf. Anogodd y pwyllgor i barhau i drafod gyda'r bwriad o benderfynu ar gynnig a allai gael mwy o gonsensws na'r cynnig y cytunwyd arno gan y mwyafrif y bore yma. Er ei bod hi'n cydnabod mai disgresiwn y Llywydd yw mater trefn galw ar Arweinwyr a Llefarwydd, dywedodd y Llywydd y byddai'n cael ei harwain gan farn mwyafrif y Pwyllgor Busnes o ran y drefn y mae'n galw ar bobl yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog a chwestiynau i'r Gweinidogion.